Skip to main content

This job has expired

Prif Weithredwr / Chief Executive

Employer
Denbighshire County Council
Location
Denbighshire (Sir Ddinbych)
Salary
£132,254 - £136,312
Closing date
30 Jun 2021

View more

Salary Package: £132,254 - £136,312

DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL

Denbighshire County Council is one of the highest performing Councils in Wales and we have developed a team of senior professionals who are proud of this status and will work hard to maintain it, even in difficult times. We are now looking for an ambitious, forward thinking individual to join the Senior Leadership Team and lead the organisation into a successful future.

Job Purpose

The Council’s Head of Paid Service and Principal Adviser, will work closely with all Elected Members, especially Cabinet, in preparing, developing and delivering strategic direction, implementing, monitoring and reviewing Council policies.

To lead decisively and inspire the Senior Leadership Team in delivering the Council’s objectives and quality service delivery; services which are effective, efficient, economic and responsive to local circumstances.

Principal Accountabilities And Responsibilities

  • As Principal Policy Adviser to the Council, provide strategic direction and interpretation to Council and Cabinet policies, ensuring these are supported by realistic action plans.
  • As Chief Executive, lead, manage and direct the Senior Leadership Team so they effectively support Cabinet Lead Members and Scrutiny Chairs.
  • As Chief Executive, develop a customer focused culture throughout the organisation that will enable the delivery of high quality services and to maintain the position of one of the highest performing councils in Wales.
  • Ensure that Council performance is measured against statutory indicators and targets that stated objectives are achieved and delivered.
  • Ensure that the council deliver their overall budget within the cash limit through monthly monitoring at Senior Leadership Team and Cabinet.
  • In conjunction with Corporate Directors, develop leadership and management skills to ensure that the Council is and will continue to be capable of achieving its strategic objectives.
  • Communicate and act as advocate internally within the organisation and externally concerning the Council and Cabinet’s plan, policies and objectives to ensure clarity, commitment and understanding.
  • Ensure that the Cabinet and the Council’s strategy and business planning and performance management process identifies resource needs, including a Human Resource Strategy which must reflect principles of Equal Opportunities and employee and Member development.
  • Communicate and gain commitment of employees to the aims and objectives of the Council and the standards, behaviour and performance expected of them.
  • Provide advice, assistance and support to the Leader and the Chairman of the Council in their respective role, and in particular their relations with external partners.
  • Support and advise all Elected Members on matters of community leadership and governance, improving the community’s confidence in the Council.

Additional Matters

  • Act as Returning Officer for Parliamentary Elections and Referenda
  • Act as Returning Officer for Town and Community Council Elections
  • Act as Electoral Registration Officer

Knowledge, Skills, Training And Experience

  • The ability to provide inspirational leadership to support and motivate a diverse group of people at all levels, coupled with a willingness to address issues and make difficult decisions. This will result in the provision of effective customer focused services, promote collective working, innovation, flexibility and engender team spirit in a changing environment.
  • An understanding of the statutory role of local authorities and of national and regional policy issues which relate to local government and experience of developing strategies and solutions to address these effectively.
  • An appreciation of local community needs and the importance of successful community involvement and empowerment.
  • First class oral and written communication skills including the ability to formulate and deliver complex strategic plans and implement long term goals.
  • Capable of seeing beyond the short term and to identify broader opportunities and the potential for operating in innovative ways to achieve end results.
  • Political sensitivity, with the ability to advise all political groups and the Council as a whole in an objective and bias-free way.

How to apply

You can download an application form by clicking apply below 

Please submit your application to Andrea Malam, Lead HR Business Partner, at: andrea.malam@denbighshire.gov.uk

Andrea Malam, Human Resources, Denbighshire County Council, PO Box 62, Ruthin, Denbighshire, LL15 9AZ.

Applications for the post should be submitted by noon on Wednesday, 30th June 2021.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau yng Nghymru ac rydym ni wedi datblygu tîm o uwch swyddogion sydd yn falch o’r statws hwn ac sy’n gweithio'n galed i’w gynnal, hyd yn oed mewn cyfnodau anodd. Rydym ni'n chwilio am unigolyn uchelgeisiol ac arloesol i ymuno â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac i arwain y sefydliad i ddyfodol llwyddiannus.

Pwrpas y Swydd

Bydd Pennaeth Gwasanaethau Cyflogedig a Phrif Ymgynghorydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r holl Aelodau Etholedig, yn enwedig y Cabinet, i baratoi, datblygu a darparu cyfarwyddyd strategol ac i weithredu, monitro ac adolygu polisïau'r Cyngor.

Arwain ac ysbrydoli'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i gyflawni amcanion y Cyngor a darparu gwasanaeth o ansawdd; gwasanaethau sy'n effeithiol, effeithlon, economaidd ac ymatebol i amgylchiadau lleol.

Prif Atebolrwydd a Chyfrifoldebau

  • Fel Prif Gynghorydd Polisi'r Cyngor, darparu cyfarwyddyd strategol a dehongliad i bolisïau’r Cyngor a'r Cabinet, gan sicrhau bod cynlluniau gweithredu realistig yn cefnogi’r rhain
  • Fel Prif Weithredwr, arwain, rheoli a chyfeirio'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth er mwyn iddynt gefnogi Aelodau Cabinet Arweiniol a Chadeiryddion Craffu yn effeithiol
  • Fel Prif Weithredwr, datblygu diwylliant sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar draws y sefydliad er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel a chynnal statws y Cyngor fel un o'r cynghorau sy'n perfformio orau yng Nghymru
  • Sicrhau bod perfformiad y Cyngor yn cael ei fesur yn erbyn dangosyddion a thargedau statudol er mwyn cyflawni a darparu amcanion a nodwyd
  • Sicrhau bod y Cyngor yn darparu'r gyllideb gyffredinol o fewn y terfyn arian parod drwy waith monitro misol yn y Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Cabinet
  • Gweithio gyda'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol i ddatblygu sgiliau arwain a rheoli i sicrhau bod y Cyngor yn gallu cyflawni ei amcanion strategol ac yn parhau i wneud hynny
  • Cyfathrebu a gweithredu fel eiriolwr yn fewnol yn y sefydliad ac yn allanol ar gyfer cynllun, polisïau ac amcanion y Cyngor a'r Cabinet, i sicrhau eglurder, ymrwymiad a dealltwriaeth
  • Sicrhau bod strategaeth a chynllunio busnes y Cabinet a’r Cyngor, a’r broses rheoli perfformiad, yn nodi anghenion o ran adnoddau, gan gynnwys Strategaeth Adnoddau Dynol, sy’n adlewyrchu egwyddorion Cyfle Cyfartal a datblygiad gweithwyr ac aelodau
  • Cyfathrebu gyda gweithwyr a derbyn eu hymrwymiad i nodau ac amcanion y Cyngor ac i’r safonau, ymddygiad a pherfformiad a ddisgwylir ganddynt
  • Darparu cyngor, cymorth a chefnogaeth i Arweinydd a Chadeirydd y Cyngor, yn enwedig o ran eu perthynas gyda phartneriaid allanol
  • Cefnogi a chynghori'r holl Aelodau Etholedig ar faterion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a llywodraethu cymunedol, gan wella hyder y gymuned yn y Cyngor

Materion ychwanegol

  • Gweithredu fel Swyddog Canlyniadau ar gyfer Etholiadau Seneddol a Refferenda
  • Gweithredu fel Swyddog Canlyniadau ar gyfer Etholiadau Cyngor Tref a Chymuned
  • Gweithredu fel Swyddog Cofrestru Etholiadol

Gwybodaeth, Sgiliau, Hyfforddiant a Phrofiad

  • Gallu darparu arweinyddiaeth sy'n ysbrydoli i gefnogi ac ysgogi grŵp amrywiol o bobl ar bob lefel, ynghyd â pharodrwydd i fynd i'r afael â materion a gwneud penderfyniadau anodd. Bydd hyn yn arwain at ddarparu gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, hyrwyddo gweithio ar y cyd, arloesi, hyblygrwydd a meithrin ysbryd tîm mewn amgylchedd sy'n newid
  • Dealltwriaeth o rôl statudol awdurdodau lleol ac o faterion polisi rhanbarthol a chenedlaethol sy'n berthnasol i lywodraeth leol a phrofiad o ddatblygu strategaethau a datrysiadau i fynd i'r afael â'r rhain yn effeithiol
  • Gwerthfawrogiad o anghenion cymunedol lleol a phwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned a grymuso llwyddiannus
  • Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig o'r radd flaenaf gan gynnwys y gallu i lunio a darparu cynlluniau strategol cymhleth a gweithredu nodau hirdymor
  • Gallu gweld y tu hwnt i'r elfennau byrdymor a nodi cyfleoedd ehangach a'r potensial i weithredu mewn ffyrdd arloesol i gyflawni canlyniadau
  • Sensitifrwydd gwleidyddol, gyda'r gallu i gynghori'r holl grwpiau gwleidyddol a'r Cyngor yn ei gyfanrwydd mewn modd amcanol a diduedd

Sut i Ymgeisio Gallwch lawrlwytho ffurflen gais o'n gwefan www.sirddinbych.gov.uk/prif-weithredwr

Fe ddylech chi gyflwyno'ch cais i Andrea Malam, Partner AD Busnes Arweiniol: andrea.malam@sirddinbych.gov.uk

Andrea Malam, Adnoddau Dynol, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 9AZ.

Dylid cyflwyno ceisiadau am y swydd erbyn hanner dydd ar ddydd Mercher, 30 Mehefin 2021
 

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert